Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dai
6 Tachwedd 2023
Yn bresennol:
Enw |
Sefydliad |
|
Enw |
Sefydliad |
Mabon ap Gwynfor AS |
Senedd Cymru (Cadeirydd) |
|
Elizabeth Taylor |
TPAS Cymru |
Ruth Power |
Shelter Cymru |
|
Helen Cunningham |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent |
Jennie Bibbings |
Senedd Cymru |
|
Amy Lee Pierce |
Y Wallich |
Matthew Palmer |
Shelter Cymru |
|
David Rowlands |
Tai Pawb |
Wendy Dearden |
Shelter Cymru |
|
Debbie Thomas |
Crisis |
Elen Grantham |
Shelter Cymru |
|
Joy Williams |
Cyngor Sir Caerfyrddin |
Ross Thomas |
Tai Pawb |
|
Stephen Rogers-Lewis |
Cyngor Caerdydd |
Andrea Lewis |
Cyngor Dinas a Sir Abertawe |
|
Carolyn Thomas AS |
Senedd Cymru |
Bethany Turner |
Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad |
|
Sam Rees |
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) |
Cerys Clark |
CIH Cymru |
|
Steve Porter |
Cyngor Dinas a Sir Abertawe |
Bonnie Williams |
Housing Justice |
|
Y Cynghorydd David Daniels |
Cyngor Torfaen |
Ryland Doyle |
Swyddfa Mike Hedges AS |
|
Gareth Lyn Montes |
Cyngor Ffoaduriaid Cymru |
Robert Smith |
Prifysgol Caerdydd |
|
Thomas Hollick |
Y Wallich |
Tim Thomas |
Property Mark |
|
Owen Thomas |
Senedd Cymru |
Carys Fon Williams |
Cyngor Sir Gwynedd |
|
Carolyn Johnstone |
Byddin yr Iachawdwriaeth |
Becky Ricketts |
Gofal a Thrwsio Cymru |
|
Rhys Thomas |
Senedd Cymru |
Ceri Cryer |
Age Cymru |
|
Casey Edwards |
Cwmpas |
Mark Congreve |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent |
|
Y Cynghorydd Lynda Thorne |
Cyngor Caerdydd |
Katie Dalton |
Cymorth Cymru |
|
Siân Gwenllian AS |
Senedd Cymru |
Manon Roberts |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
|
Huw Irranca-Davies AS |
Senedd Cymru |
Andy Thompson |
Cyngor Sir Powys |
|
Nichola Zerk |
Cyngor Dinas Casnewydd |
Y Cynghorydd Linda Davies Evans |
Cyngor Sir Caerfyrddin |
|
|
|
Cyng Shayne Cook |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili |
|
|
|
Jasmine Harris |
Crisis |
|
|
|
Eitem ar yr agenda |
Nodiadau |
Croeso gan y Cadeirydd |
Croesawodd Mabon ap Gwynfor AS bawb i’r cyfarfod cyn amlinellu agenda’r sesiwn a throsglwyddo’r awenau i’r cyflwynwyr. |
Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru
|
Cyflwyniad Debbie Thomas Pennaeth Polisi a Chyfathrebu (Cymru), Crisis
Cafwyd cyflwyniad a oedd yn canolbwyntio ar sut y gallai newid cyfreithiol helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd. |
Trafodaeth |
Y Cynghorydd Lynda Thorne – roedd yn croesawu’r Papur Gwyn ond roedd yn pryderu, meddai, ynghylch gallu awdurdodau lleol i fodloni unrhyw ofynion ychwanegol tra bod cymaint o brinder yn y cyflenwad tai. Er bod cryn bwyslais wedi bod ar ddiwygio deddfwriaethol, mae angen cyflenwad tai i sicrhau newid gwirioneddol.
Damien o'r Tasglu Tai Anabledd – dewch draw i'r Tasglu Hawliau Anabledd i sicrhau bod lleisiau pobl ag anghenion cymhleth yn cael eu clywed.
Carolyn Thomas – roedd am glywed argymhellion y panel ynghylch sut i ddileu angen blaenoriaethol a bwriadoldeb a sut y byddai hynny'n gweithio. Mae angen blaenoriaethol yn rhwystr enfawr i lawer y mae eu hangen am dai yn sylweddol. Mae canlyniadau bwriadoldeb yn ddifrifol ac yn gosbedigol iawn ar hyn o bryd.
Elizabeth Taylor – A yw’r Papur Gwyn yn mynd i’r afael â’r sector perchentyaeth?
Huw Irranca-Davies – Mae Awdurdodau Lleol yn cael trafferth gwneud cynigion rhesymol oherwydd diffyg opsiynau/cyflenwad. · Nid yw'r system fudd-daliadau wedi'i datganoli i Lywodraeth Cymru felly roedd cyfyngiadau o ran yr argymhellion y gallai'r panel eu gwneud. Bu Crisis yn gweithio gyda Zoopla yn ddiweddar i gasglu data sy’n dangos cyn lleied o eiddo sydd ar gael ledled Cymru i’w rhentu ar gyfraddau’r LTLl. Maen nhw'n ysgrifennu at Jeremy Hunt yn y cyswllt hwn. · Mae'r Papur Gwyn yn derbyn y dylai Cynlluniau Tai Personol fod yn ddyletswydd statudol, ac y dylid ystyried anghenion unigolion. Dylai hyn helpu i sicrhau bod unigolion yn cael cynigion sy’n addas iddyn nhw.
Linda Davies Evans – bydd mwy o gynigion yn cael eu gwrthod oni bai bod cysylltiad lleol. Mae’n rhesymau pam y byddai rhywun yn gwrthod cynnig sydd y tu allan i’w gymuned leol yn ddealladwy. Mae pobl yn colli eu cymuned a’u rhwydwaith cymorth pan fydd eu hangen fwyaf arnynt, ar adeg pan maent eisoes yn colli eu cartref. Mae prinder eiddo difrifol yn Sir Gaerfyrddin.
Debbie Thomas – roedd cysylltiad lleol yn faes anodd iawn i'r panel. Mae pwysigrwydd cysylltiad lleol wedi'i gwanhau ond nid yw wedi’i ddiddymu. Gellir bod yn fwy sensitif yn awr tuag at y rhai sy'n wynebu risg uwch (ee y rhai sy'n gadael gofal etc) ond gellir ystyried mathau eraill o gysylltiad ag ardal.
Carolyn Johnstone – Hoffai gael barn am sylwadau'r Swyddfa Gartref yn ymwneud â phebyll. Cytunodd aelodau'r grŵp y dylid dwyn Suella Braverman i gyfrif. Gallai Mabon godi’r mater yn y Senedd fel cadeirydd y grŵp hwn, ond dim ond os yw’r Aelodau gofyn iddo wneud hynny.
|
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol |
Ni chynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gan nad oedd digon o gynrychiolwyr.
|
Unrhyw fater arall
|
Cynhadledd Cymdeithas yr Iaith – Rhoddodd Mabon ap Gwynfor wybod i bawb am y gynhadledd a fyddai’n canolbwyntio ar yr Hawl i Dai Digonol ac a gynhelir ar 16 Tachwedd yn y Pierhead, Bae Caerdydd.
|
Cloi'r cyfarfod |
Diolchodd Mabon ap Gwynfor AS i bawb a oedd yn bresennol ac i’r siaradwyr.
Dywedodd y bydd Shelter Cymru yn anfon y cofnodion maes o law a daeth â'r cyfarfod i ben.
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf |
I'w gadarnhau - mae trafodaethau'n cael eu cynnal ynglŷn â chynnal cyfarfod ar y cyd â'r Grŵp Trawsbleidiol ar Adeiladu. |